Newyddion S4C

Apêl am ragor o ddisgyblion i fynychu Ysgol Gymraeg Llundain

Newyddion S4C 24/05/2022

Apêl am ragor o ddisgyblion i fynychu Ysgol Gymraeg Llundain

Mae apêl am ragor o ddisgyblion i fynychu Ysgol Gymraeg Llundain yn dilyn heriau'r ddwy flynedd diwethaf.

Mae'r ysgol wedi bod yn darparu addysg yn y ddinas ers dros 60 mlynedd ac yn rhoi cyfle i blant sy’n byw y tu hwnt i Glawdd Offa ddilyn Cwricwlwm Cymru.  

“Rydw i wir yn hoffi fod yn gallu siarad Cymraeg yn Llundain," meddai Osian sydd ym mlwyddyn 6. 

“Mae’r iaith Gymraeg yn prydferth a dwi isio cadw e’n saff."

Yn ôl Athro Arweiniol yr ysgol, Tom Sugg: "Un o’n blaenoriaethau ni nawr yw sicrhau ein bod ni yn diogelu niferoedd tua’r dyfodol".

Pryder am ddyfodol yr ysgol?

Ymhell cyn y pandemig roedd rhyw 38 o ddisgyblion yn yr ysgol hon. 22 sydd yno ar hyn o bryd. 

Esboniodd Tom Sugg fod hyrwyddo’r ysgol wedi bod yn fwy heriol na'r arfer oherwydd nad oedd Grŵp Miri Mawr yn cael ei gynnal sef eu grŵp i blant bach a babanod. 

“Mae ‘na fwlch wedi bod yn fanna - ‘da ni’n awyddus iawn nawr i gau’r bwlch yna a sicrhau fod y llif yma o blant sy’n dod ato ni yn parhau tua’r dyfodol," meddai.

Image
Tom Sugg
Dywedodd Tom Sugg fod yr ysgol wedi wynebu sialensiau dros y blynyddoedd diwethaf

Er gwaetha’r pandemig mae’r niferoedd yn yr ysgol wedi aros yn gymharol gyson.

“‘Dan ni wedi bod yn ffodus, mae’r plant sy’ gyno ni wedi aros," meddai Glenys Roberts, Cadeirydd y llywodraethwyr. 

“‘Dan ni ddim wedi colli plant, ond falle bo ni heb fedru denu rhai teuluoedd newydd oherwydd y clo, a bod teuluoedd wedi aros yn eu hardaloedd lleol, ac anfon eu plant i ysgol leol."

Un sy’n gwerthfawrogi cyfraniad yr ysgol yw Gareth Brock. Roedd e’n ddisgybl yn yr ysgol a bellach mae ei fab Mallo yn dilyn yn ôl ei draed. 

“Mae'n rili bwysig achos mae lot o bobl yn gorfod gadael Cymru i greu gyrfa a pethe fel 'na. Mae’n rili bwysig bo chi’n gallu cario 'mlaen â’ch gyrfa a falle rywben dod â’ch sgiliau 'nôl i Gymru," meddai. 

“Ond bod y plant ddim tu ôl, neu’n gorfod mynd i Ysgol Saesneg ar ôl mynd 'nôl i Gymru rhyw ben."

Image
Gareth a Mallo
Mae Gareth Broch yn falch bod yr ysgol dal ar agor 

Ac mae’r disgyblion yn cytuno. 

“Mae’n peth wir yn dda i bod yn siarad Cymraeg a fi wir yn falch bo fi’n gallu," meddai Lona sydd ym mlwyddyn 6. 

“Mae’r ffrindie chi’n 'neud fan hyn gyda chi am byth."

Mae Dylan yn falch o gael mynychu ysgol fach.

“Mae pawb yn gwbod ei gilydd yn dda, a mae nhw fel teulu fawr," meddai.

Oes mae sawl Cymro a Chymraes balch iawn yn Hanwell a’r gobaith yw bydd rhagor yn dewis ymuno â nhw i fod yn Gymro oddi cartref, cyn hir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.