Costau byw: Disgwyl i gap pris ynni godi i £2,800 ym mis Hydref

Mae disgwyl i gap pris ynni’r Deyrnas Unedig godi ym mis Hydref i tua £2,800, meddai prif weithredwr Ofgem.
Ar hyn o bryd y cap sy'n berthnasol tan 31 Medi yw £1,971 y flwyddyn - ac roedd y swm hwnnw'n gynnydd o 54% o'r cap blaenorol.
Dywedodd prif weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley, wrth y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y bydd yn “tua £2,800” ym mis Hydref.
Mae prisiau tanwydd a bwyd wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf hefyd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.