Amddiffynnwr West Ham Kurt Zouma yn cyfaddef cicio a bwrw cath

Mae'r pêl-droediwr Kurt Zouma wedi cyfaddef iddo gicio a bwrw ei gath.
Fis Chwefror, cafodd fideo ei gyhoeddi o'r digwyddiad, a oedd yn ei ddangos yn dweud "Rwy'n addo y gwnaf ei lladd"
Cafodd ei rannu nifer fawr o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe blediodd amddiffynnwr West Ham United yn euog i ddau gyhuddiad o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn Llys Ynadon Thames fore Mawrth.
Bu'n rhaid i Zouma, 27, ymddiheuro wedi i'r deunydd gael ei ffilmio a'i rannu gan ei frawd iau Yoan, 24, a wnaeth hefyd bledio'n euog i un trosedd yn ystod y gwrandawiad yn nwyrain Llundain.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans