Newyddion S4C

Gwrthdrawiad Llanfair Caereinion: Dyn a phedwar o blant yn sefydlog yn yr ysbyty

24/05/2022
Llanfair

Mae dyn a phedwar o blant ysgol gynradd mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Llanfair Caereinion ym Mhowys brynhawn Llun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad oddi ar Lôn Yr Ysgol yn dref.

Yn ôl yr heddlu, roedd pobl ifanc ar droed yn rhan o'r gwrthdrawiad. 

Doedd dim teithwyr ar y bws ar y pryd.

Cafodd un plentyn ei ryddhau o ofal meddygol yn ddiweddarach ddydd Llun.

Mae'r bws wedi'i symud ar gyfer archwiliad fforensig ac mae'r ffordd wedi ailagor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys brynhawn Llun fod swyddogion o Wasanaeth Ysgol y cyngor yn y dref yn parhau "i ddarparu cefnogaeth i'r ysgol uwchradd a'r ysgol gynradd" ac mae disgwyl iddyn nhw barhau i fod yno ddydd Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.