Y darlledwr Huw Edwards yn disgrifio dioddef cyfnodau o iselder dwys

Mae'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd Huw Edwards wedi disgrifio ei brofiad o ddioddef cyfnodau o iselder dwys.
Dywedodd y darlledwr ei fod yn methu codi o'r gwely yn ystod ei gyfnodau gwaethaf, a bod iselder sy'n tueddu i'w "daro" yn annisgwyl "mewn tonnau".
Mewn cyfweliad â Men’s Health UK, eglurodd bod iselder yn hefyd achosi iddo gael trafferth i wneud penderfyniadau a’i fod yn ofni mynd i'r gwaith.
Mae hefyd wedi siarad am yr ymateb negyddol a gafodd gan ambell gydweithiwr yn y BBC pan ddywedodd wrthynt ei fod yn dioddef o iselder.
Dywedodd un o’i gydweithwyr: “Dyw’r BBC ddim eisiau i bobl feddwl bod 'na nutter yn darllen newyddion 10 o'r gloch."
Yn ôl Mr Edwards, roedd y sylwadau yn dangos agweddau anffodus rhai pobl tuag iechyd meddwl.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun:BBC