Partygate: Boris Johnson dan bwysau gan ei ASau yn dilyn cyhoeddi lluniau ohono'n yfed

Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi beirniadu lluniau o Boris Johnson yn yfed gyda chydweithwyr yn ystod y cyfnod clo.
Daeth lluniau newydd i'r amlwg ddydd Llun o'r prif weinidog yn codi gwydryn mewn parti gadael i aelod o'i staff, Lee Cain y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, ar 13 Tachwedd 2020.
Cafodd y lluniau ddaeth i law ITV eu tynnu yn ystod yr ail gyfnod clo, pan nad oedd pobl yn cael cymysgu â chartrefi eraill y tu mewn.
Mae’r lluniau wedi denu beirniadaeth newydd o’r prif weinidog a’r llywodraeth yn ystod y pandemig, gyda sawl AS Torïaidd yn lleisio’u barn yn gyhoeddus.
Dywedodd yr AS Ceidwadol Tom Tugendhat fod y lluniau’n dangos diffyg “difrifoldeb” y llywodraeth yn ei hagwedd tuag at y pandemig.
Dywedodd yr AS Ceidwadol, Syr Roger Gale, ei fod yn “hollol glir fod yna barti” a bod y prif weinidog yno.
Mae disgwyl i adroddiad y gwas sifil Sue Gray ynglŷn â phartïon Downing Street a Whitehall yn ystod y cyfnod clo gael ei gyhoeddi'r wythnos yma.
Darllenwch y stori'n llawn yma