Beirniadu'r Senedd am gynnal dadl i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines
Beirniadu'r Senedd am gynnal dadl i ddathlu Jiwbilî’r Frenhines
Mae cyn-wleidydd Plaid Cymru wedi beirniadu'r Senedd am gynnal dadl awr o hyd er mwyn dathlu Jiwbilî’r Frenhines.
Bydd y ddadl, sydd wedi ei galw gan yr AS Llafur Lesley Griffiths, yn cael ei chynnal yn ystod sesiwn y Senedd brynhawn dydd Mawrth er mwyn nodi 70 mlynedd ers dechrau teyrnasiad y Frenhines Elizabeth yr Ail.
Yn ôl rhagarweiniad y ddadl, bydd hefyd yn gyfle i ddiolch i'r Frenhines am ei "chefnogaeth gadarn i Gymru" dros y degawdau diwethaf.
Ond yn ôl Bethan Sayed, a oedd yn AS dros Dde Orllewin Cymru o 2007 tan iddi gamu lawr yn 2021, nid yw'r ddadl yn "ddefnydd teilwng o amser y Senedd.
"Mae 'na gymaint o bethau eraill y gallai'r Senedd drafod ar brynhawn ddydd Mawrth. Yn scriwteneiddio be maen nhw'n gwneud yn y maes iechyd, ym maes tai, ym maes hinsawdd."
Ychwanegodd Ms Sayed fod rhaid cynnal trafodaeth "fwy balanced na'r hyn mae'r ddadl ei hun yn ymddangos" am rôl y Frenhiniaeth yng Nghymru.
"Ar draws y byd ni'n gweld protestiadau yn erbyn y teulu brenhinol yn y Caribî er enghraifft, dydyn nhw ddim yn gweld y teulu Brenhinol fel rhywbeth i'w ddathlu.
"Felly nawr yw'r amser, os nad oherwydd y Jiwbilî, y dylwn gael y trafodaethau yna yn hytrach na dathlu er mwyn dathlu."
Ni wnaeth Llywodraeth Cymru na'r Senedd wneud sylw yn dilyn cais am ymateb gan Newyddion S4C.