Cynlluniau'r Llywodraeth i gynyddu nifer o athrawon cyfrwng Cymraeg yn 'ddechrau'r daith'
Cynlluniau'r Llywodraeth i gynyddu nifer o athrawon cyfrwng Cymraeg yn 'ddechrau'r daith'
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn dweud bod cynlluniau newydd Llywodraeth Cymru i gynyddu'r nifer o athrawon sy'n siarad Cymraeg ond yn "ddechrau'r daith."
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun ar gyfer y 10 mlynedd nesaf er mwyn cynyddu'r nifer o athrawon sydd yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r cynllun yn cynnwys camau fel denu mwy o athrawon sydd wedi astudio yn Lloegr yn ôl i Gymru, ehangu'r ystod o bynciau sydd ar gael i athrawon hyfforddi ynddynt, a pheilota cynllun sydd yn ceisio cadw athrawon sy'n siarad Cymraeg mewn ysgolion uwchradd.
Bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £1m yn ychwanegol i mewn i'r cynllun gan godi'r gwariant ar gynyddu'r nifer o athrawon cyfrwng Cymraeg i £9m.
Ond yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young, er ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad a'r cyfraniad pwysig mae'n ei wneud, mae hefyd yn "codi nifer o gwestiynau."
Dywedodd Mr Roberts-Young fod yna dal nifer o sialensiau i ddenu rhagor o athrawon i'r proffesiwn, yn enwedig wrth addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Da ni'n edrych ar broffesiwn sydd yn darpar athrawon ar astudio gradd am dair blynedd, neud cwrs ôl-radd am flwyddyn a hefyd blwyddyn sefydlu," meddai.
"Felly mae yna dipyn o her at gyrraedd at y cymhwyster heb sôn am y cymwysterau sydd angen i fod ar y cwrs yn y lle cynta.
"Rhaid i ni feddwl o ran amodau gwaith athrawon...lleihau llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn y byd addysg.
"Mae'r proffesiwn wedi mynd trwy gyfnod eithriadol o anodd felly mae rhaid i ni ofyn ydy o'n broffesiwn sydd yn denu?"
'Sut da ni'n denu nhw nôl?'
Ychwanegodd Mr Roberts-Young mai un sialens benodol i ddenu athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yw'r anghysondeb rhwng y cymwysterau sydd eu hangen er mwyn mynychu hyfforddant i fod yn athro.
Yng Nghymru mae rhaid cael B mewn TGAU Saesneg a Mathemateg er mwyn bod yn athro, lle yn Lloegr a'r Alban does dim ond angen C.
Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C ei fod yn "ymchwilio cyfleoedd i adolygu'r gofynion mynediad."
Yn ôl Mr Roberts-Young y bydd newid yma yn hollbwysig i ddenu mwy o athrawon i Gymru.
"Mae'n gam pwysig iawn yn yr ystyr ni'n edrych ar y disgyblion sydd ar gael a sut da ni'n denu, sut da ni'n cyrraedd y darpar athrawon," meddai.
"Mae rhaid i ni ddod o hyd i un elfen yma o sut mae cyrraedd atyn nhw, ydy'r potensial athrawon sydd wedi astudio yn Lloegr.
"Sut da ni'n denu nhw nôl i Gymru ac i broffesiwn sydd mynd i roi boddhad iddyn nhw sydd hefyd mynd i roi llwybr a datblygiad gyrfa glir iddyn nhw?"
Wrth lansio'r cynllun newydd, dywedodd y Gweindog dros y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y bydd y camau yn rhan "allweddol" o gyrraedd y darged o filwin o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gofyn am newidiadau a chamau gweithredu pellgyrhaeddol," meddai.
"Rydyn ni eisiau Cymru lle mae mwy o bobl yn siarad ac yn defnyddio ein hiaith yn eu bywydau bob dydd.
Mae ein cynllun i gynyddu ein gweithlu addysg sy’n siarad Cymraeg yn gam allweddol tuag at gyflawni ein huchelgais.”