Dedfrydu pump o'r Rhondda i gyfanswm o 19 mlynedd dan glo am droseddau cyffuriau
Mae pump o bobl o Rondda Cynon Taf wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o fwy na 19 mlynedd dan glo am droseddau cyffuriau.
Daw hyn ar ôl i'r heddlu weithredu gwarant ar eiddo ym mhentref Pendyrus ger Glynrhedynog yn y sir ar 26 Mawrth.
Roedd y warant yn rhan o Ymgyrch Oonopsis, ymgyrch barhaus i fynd i'r afael â grwpiau troseddol sy'n cyflenwi cyffuriau.
Yn yr eiddo ar Ffordd y Dwyrain, daeth swyddogion o hyd i Stephen Williams ar ei ben ei hun mewn ystafell wely ar y llawr uchaf.
Daeth swyddogion hefyd o hyd i sêff yn yr ystafell wely blaen, ond honnodd Williams nad oedd ganddo'r allwedd i'w agor.
Dywedodd Williams wrth yr heddlu ei fod yn rhentu'r ystafell i "Ferret", dyn a gafodd ei adnabod yn ddiweddarach fel Kyle Hughes.
Fe aeth swyddogion ymlaen i agor y sêff heb yr allwedd, gan ddod o hyd i 1,681 gram o gocên, cloriannau pwyso a bagiau brechdanau i becynnu'r cyffuriau.
Cafodd Williams ei arestio am fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Daeth swyddogion o hyd i ddeunyddiau pecynnu hefyd gydag olion o gocên.
Roedd Williams yn honni mai Hughes oedd yn berchen ar y rhain.
Canabis a cocên
Yn dilyn honiadau Williams am Hughes, fe aeth swyddogion i chwilio amdano, gan stopio ei gar Renault Megane yn ddiweddarach.
Daeth swyddogion o hyd i £7,000 mewn arian parod, gan arwain at ei arestio am fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Datgelodd chwiliad o gartref Hughes weithrediad tyfu canabis bach gyda 17 o blanhigion. Fe wnaeth swyddogion gymryd sampl o'r planhigion.
Am tua 18.45 yr un diwrnod, arestiodd swyddogion Matthew Perkins, a oedd wedi talu £25,000 i Hughes, am fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafwyd hyd i lawer iawn o gocên yn eiddo Perkins, yn debyg i'r hyn a gafodd ei ddarganfod yn eiddo Williams.
Fe wnaeth Perkins wadu unrhyw wybodaeth am y cocên, a chyhuddwyd Ashley Murphy a Sara Qamber, a oedd yn bresennol yn ystod yr arestiad, hefyd.
Cafodd y pump eu dedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful:
Kyle Hughes, 31, o Bendyrus – dedfryd o bum mlynedd ac 11 mis yn y carchar am feddu gyda’r bwriad o gyflenwi cocên; am fod yn ymwneud â chyflenwi cocên; a chynhyrchu canabis.
Ashley Murphy, 37, o Drebanog – dedfryd o ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar am fod yn ymwneud â chyflenwi cocên.
Matthew Perkins, 43, o Ynyshir – dedfryd o bum mlynedd a saith mis yn y carchar am feddu gyda’r bwriad o gyflenwi cocên; am fod yn ymwneud â chyflenwi cocên; ac am feddu ar gocên.
Sara Qamber, 30, o Lanharan – dedfryd o ddwy flynedd a saith mis am fod yn ymwneud â chyflenwi cocên.
Stephen Williams, 41, o Bendyrus – dedfryd o ddwy flynedd a naw mis yn y carchar am fod yn ymwneud â chyflenwi cocên.
Llun (o’r chwith i’r dde): Kyle Hughes; Ashley Murphy; Matthew Perkins; Sara Qamber; Stephen Williams.