'Dod yn fam am y tro cyntaf yn gallu bod yn beth unig iawn'

Tanwen a Neli
Tanwen a Neli

Mae un o gyflwynwyr tywydd S4C yn dweud ei bod wedi profi unigrwydd wrth iddi ddod yn fam am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Tanwen Cray, 24, a'i dyweddi, y pêl-droediwr Ollie Cooper, 25, groesawu eu merch fach Neli Meillionen Awen Cooper ym mis Ionawr 2024.

Gyda'r rhaglen realiti Tanwen & Ollie yn dychwelyd am gyfres arall, bydd gwylwyr yn cael blas ar fywyd y cwpl wrth iddyn nhw ddod i arfer â bod yn rhieni.

Mae'r teulu yn byw ym Manceinion ar hyn o bryd tra bod Ollie, sy'n chwarae i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, ar fenthyg i Wigan Athletic.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Tanwen ei bod wedi profi unigrwydd ar ôl treulio cyfnodau hir ar ei phen ei hun gyda Neli.

"Fi’n meddwl bod dod yn fam am y tro cyntaf yn gallu bod yn beth unig iawn, yn enwedig achos mai fi oedd un o’r ffrindiau cyntaf i gael babi," meddai.

"Ers hynny mae un o fy ffrindiau, Ruth, wedi cael babi, felly fi ddim yn teimlo mor unig erbyn hyn.

"Mae byw ym Manceinion yn unig achos does ddim grŵp o ffrindiau a teulu yn agos iawn.

"Ond fi’n gwybod pa mor bwysig yw e i Ollie, a fi actually yn joio’r ffaith bo' fi'n gallu bod gyda Neli.

"Fi’n lwcus iawn ac yn ddiolchgar iawn o'r amser dwi'n cael gyda hi gan bod hi mor ifanc hefyd."

'Angen bod yn garedig'

Dywedodd Tanwen bod rhannu'r realiti o fod yn fam am y tro cyntaf ar y cyfryngau cymdeithasol yn "bwysig" iddi.

"Mae gymaint o mamau fi’n dilyn, dydyn nhw ddim yn dangos yr ochre unig a tywyll o fod yn fam ac efallai bo' fi ddim yn neud e ddigon chwaith, ond fi yn trio ar Instagram a TikTok jyst weithie sôn bod y nosweithiau'n hir, bo' fi ddim yn gwisgo make-up, bo' fi'n byw yn yr un dillad trwy'r amser," meddai.

"Ond hefyd achos ma' fe'n neis gallu rhannu efo pobl beth mae fe fel i fod yn fam a mae e'n hyfryd ond hefyd yn flinedig."

Image
Tanwen a Neli yn y lifft
Mae Tanwen yn rhannu ei bywyd bob dydd gyda Neli ar y cyfryngau cymdeithasol

Er ei bod yn mwynhau rhannu ei bywyd ar-lein, mae Tanwen yn dweud ei bod wedi gorfod dysgu i anwybyddu sylwadau cas.

"Fi 'di dysgu nawr mae angen peidio darllen achos mae Ollie yn cael sylwadau cas trwy’r amser fel pêl-droediwr a ma' fe 'di dysgu i beidio edrych," meddai.

"Pwynt y rhaglen yw dangos bywyd teuluol, bod yn fam a fi'n fam newydd a fi'n dysgu. Ma' fe fod yn rywbeth lle allech chi eistedd ar y soffa, allech chi fod yn coginio, rhywbeth lighthearted, easy going i watcho ac os nag y chi moyn gwylio fe ma' hynna'n fine."

Yn ôl Tanwen, mae angen i bobl gofio i "fod yn garedig" wrth wylio'r rhaglen.

"Os oes merch neu wyres 'da nhw sy’n cael plentyn bach, actually be' chi’n neud yw dweud y sylwadau cas i rywun gwmws fel nhw," meddai. 

"So falle jyst i feddwl dwywaith cyn sgwennu rhywbeth cas am deulu rhywun, babi rhywun neu am rywun. 

"Ma' pobl yn gallu anghofio bod rhaglen deledu yn rhywun go iawn, so i wastad fod yn garedig."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.