Cynnal trafodaethau pellach ar gynllun heddwch yr Unol Daleithiau wrth i Trump awgrymu lle i drafod
Bydd cynrychiolwyr Wcráin, diplamyddion yr Unol Daleithiau a phenaethiaid diogelwch Ewrop yn cyfarfod yn Ngenefa ddydd Sul i drafod cynllun heddwch Donald Trump i ddod â'r rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin i ben.
Yn wreiddiol roedd yr Arlywydd Trump wedi rhoi tan ddydd Iau i Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, dderbyn y cytundeb.
Cafodd y cynllun 28 pwynt ei lunio gan lysgennad arbennig Arlywydd yr Unol Daleithiau, Steve Witkoff, a chynrychiolydd Rwsia, Kirill Dmitriev, gydag Wcráin a'i chynghreiriaid Ewropeaidd wedi'u gadael allan o'r broses.
Byddai’r cynllun yma yn ei gwneud yn ofynnol i Wcráin ildio tiriogaeth, lleihau maint ei byddin a rhoi’r gorau i’w bwriad i ddod yn aelod NATO.
Erbyn hyn mae ysgrifennydd gwladol America, Marco Rubio, ar ei ffordd i Genefa i drafod y cynllun gyda'r Arlywydd Zelensky ei hun.
Dywedodd Prif Weinidog y DU a 12 arweinydd rhyngwladol arall y gallai'r cynllun fod yn sail i sgyrsiau, ond bod angen "gwaith ychwanegol" arno.
Yn wreiddiol roedd Donald Trump wedi dweud y byddai'n rhaid i Zelensky dderbyn y cynllun erbyn dydd Iau.
Ond dywedodd Arlywydd America wrth ohebwyr ddydd Sadwrn nad y cynllun yma oedd ei gynnig terfynol.
"Hoffem gael yr heddwch, dylai fod wedi digwydd amser maith yn ôl," meddai wrth siarad y tu allan i'r Tŷ Gwyn.
"Ni ddylai rhyfel rhwng Wcráin a Rwsia fod wedi digwydd erioed. Pe bawn i'n arlywydd, ni fyddai byth wedi digwydd.
"Rydym yn ceisio dod ag ef i ben. Un ffordd neu'r llall, mae'n rhaid i ni ddod â'r rhyfel i ben."
Mae ei sylwadau yn awgrymu bod cyfle i addasu'r cynllun yn y trafodaethau ddydd Sul.