'Pasiantau yn ymwneud â mwy na dim ond ffrogiau pert'

Sarann John

Mae menyw ifanc o'r Rhondda yn cymryd rhan mewn pasiantau i godi arian ar gyfer elusennau sy'n cefnogi menywod. 

Fe wnaeth Sarann John, 21 oed, gymryd rhan yn ei phasiant cyntaf dair blynedd yn ôl a hynny am "ychydig o jôc" wedi cyfnod heriol gyda'i hiechyd meddwl.

Ers hynny, mae hi wedi cymryd rhan mewn sawl pasiant gan godi bron i £3,000 ar gyfer elusennau sy'n cefnogi menywod ar draws y byd.

O ganlyniad i'w hymdrechion, cafodd Sarann ei dewis i fod yn llysgennad ar gyfer sefydliad di-elw A-Sisterhood eleni.

Mae A-Sisterhood yn cefnogi elusennau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt sy'n canolbwyntio ar helpu menywod mewn angen.

Maen nhw'n cynnwys elusennau Refuge a Cymorth i Ferched sy'n cefnogi'r rhai sydd wedi dioddef camdrin domestig.

'Newid fy mywyd'

Fel rhan o'i gwaith gydag A-Sisterhood, mae Sarann wedi ymweld â menywod yn India sydd wedi goroesi ymosodiadau asid.

Math o drais yw'r ymosodiadau yma lle mae asid yn cael ei daflu at berson, fel arfer menyw neu ferch, gyda'r bwriad o'i niweidio'n ddifrifol.

Mae'r drosedd fel arfer yn digwydd mewn gwledydd yn ne Asia, gan gynnwys India, Pacistan a Bangladesh, yn ôl elusen Action Aid.

Dywedodd Sarann bod cael cefnogi mentrau fel Sefydliad Chhanv yn India, sy'n rhoi gwaith i oroeswyr ymosodiadau asid, wedi bod yn agoriad llygad.

"Mae o wir wedi newid fy mywyd, dwi’n teimlo dwi’n rhan o rywbeth mor bwysig nawr," meddai wrth Newyddion S4C.

"I weld y bobl mae’r arian hyn yn ei effeithio, mae’n absolutely incredible. Mae rili yn torri calon i clywed am y straeon a be' maen nhw wedi mynd trwy, ond mae gwybod bo' fi wedi neud hyd yn oed tipyn bach o gwahaniaeth yn bywyd nhw yn gwneud popeth yn worth it." 

Ychwanegodd: "Mae'n blessing mwyaf fi erioed wedi cael honestly."

Image
Sarann John Cymorth i Ferched
Dyma Sarann yn cyflwyno siec o £2,000 i elusen Cymorth i Ferched Cymru ar ran sefydliad di-elw A-Sisterhood

Yn ôl Sarann, mae nifer o bobl yn camddeall y byd pasiant.

"O'n i’n cal y mindset bo' fi'n mynd ar y llwyfan ac yn gwisgo ffrog pretty, ac os mai fi oedd yr un mwya bert fyddan nhw’n dewis fi," meddai.

"Ond mae hwnna ddim yn wir o gwbl a pan ti’n cario ymlaen yn yr industry ti’n adnabod beth maen nhw [y beirniaid] yn edrych amdano.

"Maen nhw eisiau rhywun sydd efo rhywbeth maen nhw’n passionate amdano - mental health, canser, cymorth i menywod ar draws y byd - a bod nhw’n neud popeth maen nhw’n gallu neud i neud gwahaniaeth."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod gallu helpu eraill wedi bod yn brofiad gwobrwyol.

"I fi pan o'n i 'di dechrau o'n i ddim mewn lle da iawn ac o'n i’n stryglo efo fy iechyd meddwl," meddai. 

"Ond wrth i fi fynd i mewn i’r byd pasiant oedd o literally wedi gorfodi fi i ffeindio rhywbeth fi’n passionate am a ffeindio purpose a rili gwthio at hwnna.

"Nawr, bob dydd, mae gen i rhywbeth i neud, fi'n gallu gwthio i bod yn fersiwn gwell o fi a helpu pobl eraill."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.