Gwynedd: Cynllun llety gwyliau i godi arian ar gyfer atgyweiriadau Pier Bangor

Pier Bangor wedi oleuo

Mae cynnig wedi cael ei gyflwyno i droi tŷ cyn-feistr Pier Bangor yn llety gwyliau, er mwyn codi arian ar gyfer atgyweirio'r adeilad rhestredig Gradd II.

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais gan Gyfeillion Pier y Garth ym Mangor i newid defnydd yr hen dŷ.

Mae'r cynnig yn nodi bod y datblygiad yn rhan o gynllun tymor hir i ailddatblygu ardal y pier i ddenu mwy o ymwelwyr yno.

Lansiodd y Cyfeillion apêl ym mis Awst am atgyweiriadau i'r Pier. Maen nhw’n anelu at godi £40,000 ar gyfer gwaith hanfodol i'r is-strwythur, er mwyn ei "wneud yn ddiogel a'i amddiffyn am genedlaethau i ddod".

Mae'r Pier yn un o ddim ond tri phier rhestredig Gradd II yn y DU ac yn cael ei hystyried o arwyddocâd pensaernïol a hanesyddol, ers ei hadeiladu yn 1896.

Mae’r cais yn nodi nad yw Tŷ’r Pier "erioed wedi cael ei feddiannu fel annedd marchnad agored" ers i Feistr y Pier adael ar ôl ymddeol yn 2022.

Ychwanegodd y cais: "Nid oes angen yr annedd ddim mwy fel annedd rheolwr ar gyfer rhedeg y pier, mae’r cyfrifoldeb hwnnw bellach yn nwylo Ymddiriedolwyr Pier Garth Bangor."

Image
Tŷ cyn-feistr Pier Bangor
Mae cais i droi tŷ cyn-feistr Pier Bangor yn llety gwyliau

Yn y cais cynllunio dywedodd yr asiant, Cadnant Planning, fod Ymddiriedolwyr Ffrindiau Pier Garth Bangor yn gobeithio rhedeg yr eiddo ar brydles gan Gyngor Dinas Bangor.

Mae’r cynlluniau yn cynnig llety gwyliau dair ystafell wely, ystafell fyw, cegin/ystafell fwyta, ystafell ymolchi deuluol, porth, toiled ac ystafell gyfleustodau i wasanaethu ymwelwyr.

Mae’r cais yn crybwyll fod y pier yn "ased treftadaeth pwysig yn ddiwylliannol i’r ardal" a fydd yn "hyrwyddo busnesau lleol o fewn y gymuned leol ac ehangach".

Daw’r ymgynghoriad ar y cais cynllunio i ben ar 8 Rhagfyr, 2025.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.