Nathan Gill yn ‘hen hanes’ medd pennaeth polisi Reform UK
Mae cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, Nathan Gill, sydd wedi’i garcharu, yn "hen hanes", meddai Zia Yusuf, pennaeth polisi’r blaid.
Dywedodd Mr Yusuf fod Gill, a gafodd ei garcharu am gymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia, "yn ddyn sydd, o’n safbwynt ni, yn hen hanes".
Cafodd Nathan Gill ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner o garchar ar ôl iddo gael ei dalu £40,000 i wneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop.
Ar ei raglen ar Sky News fore dydd Sul, gofynnodd Trevor Phillips i Mr Yusuf pam y dylai pobl ymddiried yn yr hyn y mae Reform UK yn ei ddweud am Rwsia "o ystyried bod un o’u pobl wedi cymryd arian gan Rwsiaid".
Dywedodd Mr Yusuf: "Rwy’n credu y byddai hynny’n safbwynt hynod afresymol i’w gymryd.
"Nathan Gill, roedd yr hyn a wnaeth yn frad. Roedd yn erchyll. Roedd yn ofnadwy.
"Mae’r awdurdodau bellach wedi delio ag ef. Mae’n haeddu’r ddedfryd y mae wedi’i dderbyn.
"Ond mae hwn yn ddyn sydd, yn ein barn ni, yn hen hanes.
"Dwi erioed wedi cwrdd ag ef. Dwi erioed wedi clywed amdano, mewn gwirionedd, nes i mi weld ei enw yn y papurau newydd.
"Dw i’n meddwl ei bod hi’n afresymol difenwi pawb arall ar Reform, y miliynau o bobl ledled y wlad sy’n cefnogi Nigel [Farage] ac yn cefnogi ein plaid ni."
Daw ei sylwadau ar ôl i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, herio arweinydd Reform UK, Nigel Farage, i sefydlu ymchwiliad i gysylltiadau Reform UK â Rwsia, gan ychwanegu bod gweithred Gill yn "tanseilio ein gwlad".
Roedd Gill, 52, o Ynys Môn, yn aelod o blaid UKIP, yna dilynodd Mr Farage i blaid Brexit ac yn y pen draw daeth yn arweinydd Reform UK yng Nghymru.
Plediodd yn euog i wyth achos o lwgrwobrwyo ar ddyddiadau rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.