Gyrrwr bws a phedwar o blant yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Llanfair Caereinion
Gyrrwr bws a phedwar o blant yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Llanfair Caereinion
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys fod bws ysgol wedi bod mewn gwrthdrawiad yn Llanfair Caereinion ym Mhowys am 15:25 brynhawn Llun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad oddi ar Lôn Neuadd.
Yn ôl yr heddlu, roedd pobl ifanc ar droed hefyd yn y gwrthdrawiad ac mae gyrrwr y bws a phedwar o blant wedi eu cludo i ysbyty. Doedd dim teithwyr ar y bws.
Mae'r ffordd ynghau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys:
"Gall y cyngor gadarnhau bod bws ysgol wedi bod mewn digwyddiad y prynhawn yma yn Llanfair Caereinion.
Mae swyddogion Gwasanaeth Ysgolion y cyngor sir yn y dref yn darparu cefnogaeth i ddisgyblion yr ysgol uwchradd a chynradd"
Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans fod tri o'r pump o blant a oedd yn y gwrthdrawiad wedi eu cludo mewn hofrennydd i ysbyty. Cafodd plentyn arall ac oedolyn eu cludo i ybyty mewn ambiwlans. A chafodd plentyn arall ei asesu, ond doedd dim angen triniaeth bellach arno, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.