Galwadau i ohirio cynlluniau i sefydlu treth twristiaeth

Galwadau i ohirio cynlluniau i sefydlu treth twristiaeth
Fe fyddai treth twristiaeth lle byddai ymwelwyr yn gorfod talu cost ychwanegol i aros dros nos yn “troi pobol ffwrdd o Gymru," yn ôl Cadeirydd y Cyngor Twristiaeth.
Bydd Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar y mater yn yr hydref, ac maen nhw’n dweud bod tollau o’r fath yn beth cyffredin ar draws y byd.
Roedd gwariant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yn werth dros £5b i Gymru yn 2019. Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y byddai treth twristiaeth yn creu incwm i gynghorau lleol, ac y gallai hwnnw gael ei ddefnyddio i gadw traethau a phalmentydd yn lan, cynnal parciau, toiledau a llwybrau lleol.
Mae’r ymgynghori’n rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Ond yn ol Suzy Davies, Cadeirydd Cyngor Twristiaeth Cymru, dyw e ddim yn syniad da.
"Wel dydyn nhw [y busnesau] ddim yn edrych ymlaen at y syniad wrth gwrs achos dan ni'n son am dreth twristiaeth sy'n effeithio ar Gymru yn unig."
"Felly o gymharu efo pobol sy'n cael busnesau yn Lloegr neu yn yr Alban mae e just yn rhyw beth arall sy'n troi pobol ffwrdd o Gymru oherwydd hynny."
"Os dan ni'n son am bob gwely dros nos, jyst i deulu normal mae hynny'n gallu totio lan yn glou iawn."
Barn debyg sydd gan Richard Griffiths, Perchennog Gwesty’r Richmond yn Aberystwyth.
"Dan ni wedi cael blynydde ofnadwy yn ddiweddar. Mae costau ar hyn o bryd yn codi yn arw o ran tanwydd, staffio, popeth dan haul, ac i ofyn i ni wedyn ychwanegu'r gost ar ein cwsmeriaid i dalu treth ar dwristiaeth yn just gormod.
"A dydy o ddim yn deg ar ein staff sy'n gweithio i ni i ofyn iddyn nhw neud hynny ar ben popeth arall, sefyll o flaen cwsmer a deud ar ben costau'ch bil, mae angen pum punt, neu beth bynnag, y person y noson, i dalu am dreth i'r Llywodraeth, mae hwnnw'n mynd i roi straen ofnadwy arnyn nhw."
Ond nid pawb sy’n cytuno. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fwy cefnogol i’r syniad o gael treth twristiaeth. Jeff Smith ydy Cadeirydd y Grwp Cymunedau Cynaliadwy.
"Mae Cymdeithas eisiau gweld model newydd o dwristiaeth sydd yn fwy cynaliadwy ac yn gweithio'n dda i'n pobol," meddai.
"Dyma rhywbeth lle mae cymunedau yn gallu cael mwy yn ol o'r diwydiant pwysig yma a gobeithio bydd modd defnyddio'r arian i gefnogi ein cymunedau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a chaiff y refeniw ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau.
"Byddwn yn ystyried pob sylw fel rhan o’r broses ymgynghori yr hydref hwn. Bydd gofyn i’r Senedd gymeradwyo’r broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, eu troi’n ddeddfwriaeth ac yna gweithredu a bydd yn cymryd blynyddoedd lawer.”