Imran Ahmad Khan: Cyn-AS wedi'i garcharu am 18 mis am ymosodiad rhyw ar fachgen 15 oed

Mae'r cyn Aelod Seneddol Ceidwadol, Imran Ahmad Khan, wedi'i ddedfrydu i garchar am 18 mis am ymosod yn rhywiol ar fachgen 15 oed mewn parti yn 2008.
Cafodd Khan, 48, ei ethol i gynrychioli Wakefield yn 2019 ond fe ymddiswyddodd ym mis Ebrill eleni, ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o ymosod yn rhywiol ar y bachgen.
Clywodd Llys y Goron Southwark fod Khan wedi gorfodi’r llanc i yfed alcohol, ei lusgo i fyny’r grisiau a gofyn iddo wylio pornograffi cyn ymosod arno.
Mae Khan hefyd wedi'i wahardd o'r Blaid Geidwadol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: UK Parliament