Cymry'r West End i ddisgleirio ar Britain’s Got Talent nos Sadwrn
Mae criw o berfformwyr o Gymru yn cystadlu ar sioe deledu Britain’s Got Talent ar ITV nos Sadwrn.
Bydd criw'r Welsh of the West End yn canu eu haddasiad o'r gân From Now On o’r ffilm The Greatest Showman.
Mae’r criw wedi ffurfio ers dwy flynedd ac yn perfformio caneuon allan o sioeau cerdd adnabyddus fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.
Ymysg y cantorion i berfformio fel rhan o Welsh of the West End mae Steffan Rhys Hughes, Sophie Evans, Luke McCall a Mared Williams.
Yn ystod y cyfnod clo roedd y criw yn perfformio ar-lein ac fe wnaethon nhw ddenu dros 15 miliwn o wylwyr.
Yn gynharach eleni roedd y criw yn perfformio yn y Royal Albert Hall gyda Syr Bryn Terfel a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.
Gwyliwch fideo o'r perfformiad ar Britain's Got Talent yma.
Fideo: Thames/Syco/ITV
Llun: Twitter/Welsh of the West End
Tune in to @BGT tonight at 8pm on @ITV to watch our audition! ✨ pic.twitter.com/3vP3yhVOtJ
— Welsh of the West End (@WelshWestEnd) May 21, 2022