
Ysbrydoli cenhedlaeth o chwaraewyr Padel wrth agor y cwrt cyntaf yng Nghymru
Ysbrydoli cenhedlaeth o chwaraewyr Padel wrth agor y cwrt cyntaf yng Nghymru
Mae camp newydd wedi cyrraedd Cymru, wrth i'r cwrt Padel cyntaf gael ei agor gyda gobeithion o ysbrydoli cenhedlaeth newydd o chwaraewyr.
Gêm raced yw Padel sydd yn deillio o gampau fel tenis a sboncen ac mae'n tyfu ar raddfa aruthrol o gyflym ar draws y byd.
Gyda'i wreiddiau ym Mecsico, mae'r gamp wedi lledaenu yn gyflym ar draws De America ac Ewrop gan ddenu tua 20 miliwn o chwaraewyr.
Y gobaith nawr yw denu chwaraewyr Cymraeg wrth i Glwb Tenis Windsor ym Mhenarth ger Caerdydd agor y cwrt cyntaf yng Nghymru.
Dywedodd Gwenda Richards, cyn-gapten y clwb fod y clwb yn falch o fod ar flaen y gad.
"Ni'n freintiedig sobor, wi'n credu ei fod yn ffantastig bod ni di cael ein dewis i gael y cwrt cynta," meddai.
"Bydd e'n denu lot o bobl i'r clwb ac i Benarth a de Cymru felly ni'n teimlo yn falch iawn y ni'n dangos i bawb yng Nghymru beth yw Padel."
'Lot o sbort'
Mae'r cwrt wedi'i adeiladu mewn partneriaeth gyda chwmni Game4Padel, sydd yn arwain yr ymdrech i dyfu'r gamp yn y Deyrnas Unedig.
Erbyn hyn mae 29 o gyrtiau Padel wedi'u hadeiladu yn y DU, gyda gobeithion o ddilyn esiamplau gwledydd Ewrop lle mae'r gamp eisoes wedi dod yn boblogaidd tu hwnt.
Mae nifer o enwau adnabyddus bellach wedi mynegi cefnogaeth i Padel, gan gynnwys Andy a Jamie Murray, Annabel Croft ac Andrew Castlte, a'r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies.
Yn ôl Game4Padel, mae Padel yn gêm sydd yn hawdd i'w chwarae ac felly ynun sydd yn denu chwaraewyr sydd efallai ddim yn hoff o gampau raced anoddach fel tenis.
"Beth sydd yn grêt abyti'r gêm, yw sdim rhaid i chi fod yn dda yn tenis nac yn sboncen," meddai Gwenda.

"Gallwch chi ddod mewn i chwarae hwn os nad ydych chi wedi cydio mewn raced erioed.
"Mae'n gêm i'r teulu, mae e'n gêm i bob math o safon, ac mae'n lot o sbort."
Bellach mae yna gynlluniau i gynnwys Padel yn y Gemau Olympaidd o 2032 ymlaen.
Gyda'r cyfleusterau ar agor ym Mhenarth a gobaith i agor rhagor o leoliadau, a allwn weld pencampwr o Gymru rhyw ddydd?
"Pam lai?" meddai Gwenda.
"Mae'r plant yn dechrau tyfu fan hyn, maen nhw'n ysu am chwarae, pwy a ŵyr?"