Newyddion S4C

Enwi carfan dynion tîm pêl-droed Cymru ar gyfer gemau mis Mehefin

19/05/2022
Cymru vs Awstria / Asiantaeth Huw Evans

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Rob Page, wedi enwi ei garfan ar gyfer gemau mis Mehefin.

Mae Rob Page wedi enwi carfan o 27 o chwaraewyr, gyda Chymru yn chwarae yn erbyn naill ai'r Alban neu Wcráin yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd ar 5 Mehefin a Chynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gwlad Pwyl, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. 

Mae gan Rob Page garfan bron yn holliach i ddewis ohoni, gyda chwaraewyr profiadol megis Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen ymysg yr enwau fydd yn hollbwysig i'r ymgyrch fis nesaf.

Bydd Kieffer Moore a Danny Ward yn dychwelyd ar ôl anafiadau wnaeth olygu bod yn rhaid iddynt fethu gemau mis Mawrth. 

Bydd Brennan Johnson, Rubin Colwill a Sorba Thomas hefyd yn rhan o'r garfan yn ogystal â Nathan Broadhead, sy'n cael ei enwi yn rhan o'r garfan am y tro cyntaf.

Pe bai Cymru yn cyrraedd Qatar, byddai tîm Rob Page yn wynebu Lloegr, Iran ac Unol Daleithiau'r America yng Ngrŵp B ym mis Tachwedd. 

Bydd gêm gyntaf Cymru fis nesaf ar 1 Mehefin yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.