Newyddion S4C

Podiau sinema yn Ninas Powys yn mynd o nerth i nerth

Wales Online 18/05/2022
Cosy Cinema

Bydd pod sinema yn Ninas Powys, sydd wedi cael sylw gan filiynau ar TikTok, yn ehangu i agor yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd y pod sinema gwreiddiol yn Ninas Powys gan Sian a John Colderley yn eu gardd eu hunain, cyn ychwanegu dau arall i'r ardd gyda gwesteion yn gallu aros noson a gwylio eu hoff ffilmiau neu raglenni yn eu pod. 

Yn dilyn eu poblogrwydd, mae'r cwpl bellach wedi ehangu eu busnes i Gaerdydd gan sefydlu dau bod arall yng Ngwersyll Carafanio Caerdydd ym Mhontcanna. Y gobaith ydy cael chwech yn barod erbyn mis Mehefin. 

Dechreuodd y busnes dros flwyddyn yn ôl, ac fe wnaeth miliynau o bobl wylio'r fideos ar Tiktok yn ogystal â derbyn negeseuon yn rhyngwladol, o Awstralia i Dde Affrica. 

Darllenwch fwy yma

Llun: Gwefan Airbnb

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.