Achos plismon Porthmadog: Rheithgor yn ystyried eu dyfarniad
Mae aelodau'r rheithgor yn achos plismon sydd wedi ei gyhuddo o ddyrnu a thagu dyn mewn gardd ym Mhorthmadog wedi eu hanfon i ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Caernarfon.
Mae PC Richard Williams, 43 oed, wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o achosi niwed corfforol a thagu bwriadol wrth geisio arestio dyn.
Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiad mewn gardd tŷ yn stad Pensyflog ar 10 Mai 2023.
Wrth grynhoi’r achos ddydd Mercher, dywedodd y Barnwr Nicola Jones wrth y rheithgor: “Mae’r erlyniad yn dweud bod PC Richard Williams wedi defnyddio grym anghyfreithlon yn erbyn Mr (Steven) Clark.
“Mae Mr Williams yn dweud bod Mr Clark wedi ymosod ar PC Einir Williams a pharhau i wrthsefyll yr arést. Roedd Mr Williams yn credu bod Steven Clark yn peri perygl iddo ef a’i gyd-weithiwr.
“Fe wnaeth Richard Williams gyfaddef iddo daro Mr Clark a’i ddal wrth ei wddf. Mae’n honni ei fod yn gweithredu mewn modd cyfreithlon, wrth geisio amddiffyn ei hun a PC Einir Williams.
“Os ydych chi yn sicr ei fod yn defnyddio grym oedd yn fwy na rhesymol, felly nid oedd yn gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun, ac fe fydd yn rhaid ei ddyfarnu yn euog.”
'Ymosodiad'
Ar ran yr erlyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Richard Edwards: “Rydych chi wedi clywed tystiolaeth am hyfforddiant swyddogion yr heddlu a’r technegau sydd angen eu defnyddio er mwyn cyflawni arestiad.
“Mae rhai o’r technegau yn defnyddio grym, mae rhai sydd yn defnyddio ergydion. Ond mae’n rhaid iddo fod yn angenrheidiol a chymesur.
“Doedd hwn ddim yn gyfreithlon. Doedd hwn ddim yn angenrheidiol, na chymesur. Roedd hwn yn ymosodiad ar Steven Clark.
“Roedd yna naw ergyd i’r wyneb, ac fe ddywedodd y byddai Mr Clark yn cael ei daflu (launched) i mewn i’r fan. Nid gweithred o amddiffyn ei hun yn unig oedd hyn.”
'Heddwas arbennig'
Yn amddiffyn PC Williams, dywedodd Simon Kealey KC: “Mae Richard Williams wedi arestio cannoedd o bobl, a chyn hyn, doedd dim byd fel hyn erioed wedi digwydd.
“Fel yr ydym wedi clywed, mae’n heddwas arbennig. Mae wedi wynebu sefyllfaoedd peryglus a newidiol o’r blaen, ac nid unwaith ydi o wedi gweithredu mewn modd anghyfreithlon, y tu hwnt i gôd disgyblaeth yr heddlu. Mae’n ddyn o gymeriad da.
“Ni wnaeth Mr Clark gydymffurfio â gofynion y swyddogion. Yr unig beth oedd yn rhaid iddo ei wneud oedd symud ei fraich dde at ei fraich chwith.
"Do, mi oedd wedi anafu ei fraich yn flaenorol, ond nid oedd hynny yn ei atal rhag symud ei fraich ar draws ei gorff.
“Roedd hon yn weithred o wrthsefyll actif a threisgar."
Ychwanegodd: “Cafodd Mr Williams ei feirniadu gan yr erlyniad am ei ymateb. 'Ddylech chi ddim fod wedi ei ddyrnu, ddylech chi ddim fod wedi gafael ei wddf'.
"Ond roedd ei weithredoedd yn angenrheidiol er mwyn adennill rheolaeth dros Steven Clark er mwyn gallu cwblhau’r arestiad.”
Mae'r achos yn parhau.