Dim perthynas ‘ffurfiol’ rhwng Plaid a Reform medd Rhun ap Iorwerth
Fydd yna ddim perthynas "ffurfiol" rhwng Plaid Cymru a Reform ar ôl etholiad y Senedd mewn blwyddyn yn ôl Rhun ap Iorwerth.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru y byddai cytundebau anffurfiol yn bosib gyda phob plaid yn y Senedd os yw ei blaid yn llywodraethu fel plaid leiafrifol.
Roedd arolwg gan YouGov a gyhoeddwyd ddyddd Mawrth, flwyddyn cyn etholiad nesaf y Senedd, yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen gyda 30% o’r bleidlais, Reform yn ail ar 25%, Llafur ar 18% a’r Ceidwadwyr ar 13%.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%, y Gwyrddion ar 5% a phleidiau llai ar 2%.
Gallai hynny olygu bod Plaid Cymru yn llywodraethu fel plaid leiafrifol ac angen cydweithrediad pleidiau eraill i ddal gafael ar rym.
“Yn amlwg, ni fydd perthynas ffurfiol rhwng Plaid a’r Reform, na fydd?” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Alla i ddim gweld perthynas ffurfiol gyda’r Ceidwadwyr, ar ôl 14 mlynedd o ddinistr.
“Mae gennych chi y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn gweithio yn y Senedd nawr mewn ffyrdd anffurfiol.”
Ond roedd system etholiadol oedd yn golygu na fyddai gan yr un blaid fwyafrif yn golygu bod rhaid cyd-weithio, meddai.
“Mae hynny’n golygu fod yn rhaid i chi gael elfennau o gydweithrediad,” meddai.
“Ond mae’n bwysig pwysleisio i bobl, wrth gwrs, y gall cydweithredu ddigwydd ar sawl lefel. Gall fod yn anffurfiol. Gall fod fesul pwnc.
“Ac rwy’n atgoffa pobl, pan ffurfiodd yr SNP y llywodraeth yn 2007 gyda, rwy’n credu, tua’r un gyfran o seddi ag oedd yr arolwg barn yn ei ragweld ddoe, eu bod wedi llywodraethu gyda lleiafrif a gwneud hynny’n llwyddiannus iawn.”
‘Perygl’
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wrth BBC Radio Cymru ddydd Mercher bod diffyg parch wedi bod tuag at ddatganoli gan Lywodraeth Lafur y DU.
"Maen nhw'n gweithredu mewn ffordd na ddylen nhw - heb barchu datganoli - felly mae'n bwysig bod ni'n dweud fod angen i hwnna stopio,” meddai.
“Fy ngwlad i yw Cymru, ac felly mae'n rhaid i fi roi Cymru cyn y blaid Lafur.”
Wrth ymateb i arolwg barn YouGov ddydd Mawrth dywedodd bod angen i’w phlaid “ddeffro”.
“Mae yna berygl go iawn na fydd y Blaid Lafur mewn grym yn y dyfodol ac mae angen i bobl feddwl yn ofalus iawn am bwy maen nhw ei eisiau wrth y llyw,” meddai.