Newyddion S4C

'Ffrind i bawb': Teyrnged i ddyn fu farw yn Sir Benfro

jack walker.jpg

Mae teulu dyn o Sir Benfro a fu farw ar ôl cael ei achub o'r môr wedi rhoi teyrnged iddo. 

Bu farw Jack Walker, o Maenorbŷr, wedi digwyddiad ar 1 Mai. 

Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i borthladd Aberdaugleddau yn dilyn adroddiad fod dyn wedi cael ei achub o'r dŵr tua milltir oddi ar yr arfordir.

Bu farw yn ddiweddarach. 

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Mae ein calonnau wedi eu torri ar ôl colli ein mab, ŵyr, tad, brawd, ewythr a brawd-yng-nghyfraith caredig, gofalgar a chariadus.

"Roedd yn ffrind arbennig i bawb. Fe wnaeth Jack ein gadael ni yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu fwyaf. 

"Rydym yn meddwl am ei gyd-weithwyr a oedd yn gweithio ar y diwrnod hwnnw. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth."

Mae'r heddlu yn gweithio mewn cydweithrediad gyda'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol i sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.