Newyddion S4C

Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am nifer o 'themâu pryderus' wedi adolygiad o theatrau ysbyty

Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am nifer o 'themâu pryderus' wedi adolygiad o theatrau ysbyty

Mae adolygiad o brif theatrau Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi datgelu bod "awyrgylch o ofn" yn bodoli yn yr adran llawdriniaethau, gyda'r defnydd honedig o gyffuriau anghyfreithlon a dwyn wedi eu nodi gan rai aelodau o staff.

O ran diogelwch cleifion, mae'r prif bryderon yn ymwneud â chael caniatâd cleifion a chydymffurfiaeth â rhestr wirio diogelwch llawfeddygol Sefydliad Iechyd y Byd. 

Mae'r pryderon eraill yn amrywio o "fethiannau mewn arweinyddiaeth, cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau a diwylliant gwael, sydd i gyd yn effeithio ar ymddygiadau a diogelwch seicolegol cydweithwyr" meddai'r bwrdd iechyd. 

Cafodd honiad dienw am hiliaeth ei wneud hefyd gan weithiwr.

Mae ymchwiliad annibynnol arall wedi ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i honiadau bod aelodau'r cyhoedd wedi bod yn bresennol mewn llawdriniaethau yn yr ysbyty, ond nid yw canfyddiadau'r ymchwiliad hwnnw wedi eu rhannu'n gyhoeddus.

Cyffuriau a lladrata

Roedd llawer o staff ofn codi eu pryderon yn agored o achos yr awyrgylch oedd yno meddai awduron yr adolygiad diweddaraf.

Clywodd yr adolygwyr enghreifftiau o ymddygiad troseddol gan gynnwys lladrad a chyffuriau anghyfreithlon mewn loceri staff. 

Dywedodd yr adroddiad: "Mae'r lladrata, er enghraifft, wedi golygu nad yw staff benywaidd yn gallu gadael unrhyw beth o werth yn yr ystafell newid oherwydd rheoleidd-dra'r lladrata. 

"Clywodd yr adolygwyr enghreifftiau o arian, ffonau, cyfrifiaduron a dillad yn mynd ar goll. Mae hyn yn amlwg wedi creu awyrgylch o ofn, tor-ymddiriedaeth bersonol ac wedi mynd ymhell i ddinistrio'r rhwymau sy'n galluogi pobl i gydweithio'n effeithiol. 

"Gallai hefyd esbonio pam mae eiddo personol gan gynnwys bagiau i'w cael mewn mannau clinigol."

'Pryderon sylweddol'

Yn dilyn arolwg staff mewnol a gododd "bryderon sylweddol", cychwynnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro adolygiad o brif theatrau'r ysbyty.

Cwblhawyd yr adolygiad ar ddydd Mawrth, 29 Ebrill, ac roedd yn cynnwys dros draean o staff theatrau yn rhannu eu barn a'u profiadau. 

Dywed y bwrdd iechyd eu bod eisoes wedi cymryd camau lliniaru "ac mae gwelliannau wedi'u rhoi ar waith."  

Bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn ystyried y canfyddiadau, y camau gweithredu a argymhellwyd a goblygiadau'r adolygiad wrth iddo "ddatblygu ymateb rheolwyr a chynllun gweithredu manwl i wneud gwelliannau brys". 

Bydd yr ymateb hefyd yn ymdrin â materion ansawdd a diogelwch. 

Bydd cydweithwyr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â theatrau yn derbyn copi o'r adroddiad a byddant yn cael eu cefnogi gan gyfres o friffiau wyneb yn wyneb gyda'r Prif Swyddog Gweithredu ac uwch gydweithwyr eraill.    

Ymddiheuro

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am y gofid a'r pryder sydd wedi ei achosi gan ganfyddiadau'r adolygiad mewnol.

Mewn datganiad, dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr y bwrdd iechyd a Paul Bostock, y Prif Swyddog Gweithredu, fod y tîm gweithredol "wedi ymrwymo i wella'r amgylchedd gwaith a'r diwylliant ac i fynd i'r afael â'r holl faterion a godwyd". 

"Mae'n bwysig i ni fel Bwrdd Iechyd ein bod yn cadw ymddiriedaeth a hyder cleifion a'u hanwyliaid sy'n rhoi eu hiechyd yn ein dwylo ac yn dibynnu arnom i beidio â gwneud unrhyw niwed," meddai.

"Mae'n ddrwg iawn gennym am y gofid a'r pryder y bydd hyn yn ei achosi, ac rydym am sicrhau'r cyhoedd y byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.