Y Conclaf: Mwg du yn cadarnhau nad oes Pab newydd wedi'i ethol eto
Y Conclaf: Mwg du yn cadarnhau nad oes Pab newydd wedi'i ethol eto
Mae mwg du wedi codi o'r simnai uwchben Capel Sistina yn Y Fatican nos Fercher, gan olygu nad oes penderfyniad hyd yma gan y 133 o Gardinaliaid y Conclaf yno ar ddewis Pab newydd.
Fe fydd y pleidleisio yn parhau ddydd Iau, gyda hyd at bedair rownd o bleidleisio yn cael eu cynnal.
Mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair i ethol Pab newydd.
Bydd mwg gwyn yn datgan fod Pab newydd wedi'i ethol.
Er fod yna 250 o gardinaliaid ar draws 90 o wledydd, dim ond y rhai sydd o dan 80 oed sy'n cael pleidleisio, sef 133 o gardinaliaid.
Bu farw y Pab Ffransis yn 88 oed yn ei gartref, Casa Santa Marta, ar fore Llun y Pasg.
Mae'r Conclaf ('gydag allwedd') yn cyfeirio at gyfarfod y cardinaliaid sydd yn ymgynnull yng Nghapel Sistina i bleidleisio i ethol y Pab nesaf.
Fe wnaeth y Conclaf yn 2005 i ethol y Pab Benedict a'r Conclaf yn 2013 i ethol y Pab Ffransis bara dau ddiwrnod yr un.
Ond mae yna ragweld y gallai'r conclaf presennol barhau yn hirach am nad oes ffefryn amlwg.