Newyddion S4C

Dyn 'heb unrhyw esboniad' am ymosodiad angheuol ar ddynes yn ei chartref

Catherine Flynn

Mae dyn 34 oed sydd wedi ei gyhuddo o sathru ar ddynes gan achosi ei marwolaeth yn ei hystafell wely wedi dweud wrth reithgor nad oedd ganddo unrhyw esboniad am yr ymosodiad.

Cafodd sŵn yr ymosodiad yn y Rhyl ei gofnodi ar fideo cloch drws ac roedd merch Catherine Flynn, 69 oed, Natasha, adref yn ei chartref ei hun yn clywed yr hyn ddigwyddodd yn ôl tystiolaeth yr erlyniad.

Mae Dean Mears o Fae Kinmel wedi cyfaddef dynladdiad ond mae'n gwadu iddo lofruddio Catherine Flynn yn yr ymosodiad fis Hydref y llynedd.

Yn gwisgo siwt lwyd, crys gwyn a thei du, dywedodd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ei fod wedi bod yn defnyddio canabis, cocên a ketamine ac roedd wedi gweithio fel sgaffaldiwr.  

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr Richard Pratt KC, cytunodd Mears ei fod wedi cael ei garcharu yn 2021 am fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi.

Yn ystod ei dystiolaeth honnodd Mears nad oedd yn gwybod pam yr aeth i gartref Mrs Flynn yn Heol Cefndy ar noson ei marwolaeth. 

Nid oedd yn ei hadnabod ac nid oedd ganddo unrhyw reswm i'w brifo, meddai.

“Ydych chi'n cofio beth wnaethoch chi yn y tŷ?” gofynnodd Mr Pratt iddo. 

“Dydw i ddim yn cofio,” mynnodd Mears.  

Dywedodd y bargyfreithiwr ei fod wedi achosi ymosodiad “ofnadwy” ar y pensiynwr yn y tŷ ac wedi achosi’r anafiadau “mwyaf erchyll”. 

Dywedodd Mears: “Rwy’n derbyn hynny.”  

Dywedodd: "Ni allaf gynnig unrhyw esboniad. Rwy'n gwybod ei fod yn beth ofnadwy i ddigwydd. Hoffwn pe bai gennyf atebion."

Mae'r achos yn parhau.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.