10 o bobol wedi eu saethu’n farw mewn canolfan siopa yn yr UDA

Mae 10 o bobol wedi eu saethu’n farw mewn canolfan siopa yn Buffalo yn nhalaith Efrog Newydd yn yr UDA.
Mae dyn gwyn, 18 oed, yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o lofruddio mewn digwyddiad yn ôl yr heddlu sy’n cael ei ystyried â chymhelliad hiliol.
Dechreuodd y dyn saethu pobol yn y maes parcio cyn mynd i mewn i’r ganolfan brynhawn Sadwrn.
Fe gafodd cyfanswm o 13 o bobol eu saethu, ac mae tri yn derbyn triniaeth yn yr Ysbyty.
Roedd swyddog yr heddlu oedd wedi ymddeol ac yn gweithio fel swyddog diogelwch yn y ganolfan ymhlith y rhai fu farw.
Fe ymddangosodd Payton Gendron o flaen llys yn ddiweddarach wedi ei gyhuddo o lofruddio.
Yn ôl adroddiadau roedd wedi teithio 200 milltir o'i gartref yn Conklin yn y dalaith.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Derek Gee/AP