Teyrngedau teulu i fenyw 52 oed fu farw mewn digwyddiad yn Sir Benfro
Mae teulu menyw 52 oed fu farw mewn digwyddiad yn Noc Penfro wedi rhoi teyrnged i berson “oedd yn cyffwrdd calonnau pawb.”
Cafodd corff Lisa Fraser ei ddarganfod ddydd Gwener yn dilyn y digwyddiad ar y Ffordd Filwrol yn y dref.
Dywedodd ei theulu: “Roedd Lisa yn cael ei charu gan ei theulu a’i ffrindiau ac roedd yn cyffwrdd calonnau pawb. Bydd yn cael ei cholli gan bawb. Lisa gobeithio dy fod ti’n dawnsio ar lwch aur.”
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i’w theulu .
Mae dyn 41 oed o Hwlffordd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Roedd presenoldeb heddlu mawr yn dal i fod yn yr ardal ddydd Sadwrn yn sgil y digwyddiad ar y Ffordd Filwrol yn y dref.
Mae'r heddlu yn parhau â'u hymholiadau ac ar hyn o bryd, nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'u hymchwiliad.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220513-047.