Dŵr yn ôl i bentref ym Mro Morgannwg ar ôl gorchymyn i beidio â'i yfed

Mae trigolion mewn pentref ym Mro Morgannwg gafodd gorchymyn i beidio ag yfed y dŵr wedi cael eu cyflenwad yn ôl.
Roedd trigolion yn Sain Tathan wedi cael gwybodaeth ddydd Iau i beidio â defnyddio’r cyflenwad dŵr.
Yn wreiddiol cafwyd gwybodaeth gan y cwmni dŵr Ancala y byddai’n rhaid i bobol y pentref ddefnyddio dŵr potel am o leiaf ddeuddydd.
Ond dywedodd y cwmni ddydd Sadwrn fod y cyflenwad dŵr nawr yn ddiogel i’w yfed.
Darllenwch fwy yma.
Llun: ITV Cymru