Wcráin: Uwch swyddogion amddiffyn yr UDA a Rwsia yn trafod dros y ffôn

Mae uwch swyddogion amddiffyn yr UDA a Rwsia wedi cynnal trafodaethau dros y ffôn am y rhyfel yn Wcráin.
Mae swyddogion y Pentagon yn yr UDA wedi ceisio agor trafodaethau ers amser ond roedd swyddogion Rwsia wedi gwrthod.
Ond siaradodd ysgrifennydd amddiffyn yr UDA Lloyd Austin gydag ysgrifennydd amddiffyn Rwsia Sergei Shoigu am dros awr ar y ffôn ddydd Gwener.
Yn ôl llefarydd ar ran y Pentagon galwodd Mr Austin am “gadoediad ar unwaith.”
Darllenwch fwy yma.