Tywysog William yn cyflwyno anrhydedd i'r Fonesig Deborah James yn ei chartref

Mae Deborah James, cyflwynydd y podlediad You, Me and the Big C, wedi derbyn ei hanrhydedd fel Bonesig gan y Tywysog William yn ei chartref.
Cafodd ei hanrydeddu gan y Frenhines ychydig ddyddiau ar ôl datgelu ei bod yn derbyn gofal diwedd oes ar gyfer canser y coluddyn.
Dywedodd y Fonesig Deborah James ei bod “wedi dychryn ac yn crio” wedi iddi dderbyn y fath anrhydedd.
Mae’r fam i ddau wedi codi bron i £6m ers dydd Llun, pan gyhoeddodd ei bod wedi rhoi’r gorau i gael triniaeth.
Mae hi'n treulio'r amser sy'n weddill ganddi yng nghartref ei rhieni, gyda'i theulu.
Mae anrhydeddau o’r fath fel arfer yn cael eu cyhoeddi fel rhan o Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd neu Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Ond, mewn amgylchiadau eithriadol, mae rhai yn cael eu cyhoeddi ar adegau eraill o’r flwyddyn.
Darllenwch fwy yma.
Llun:Twitter @bowelbabe