Ymchwiliad i lofruddiaeth wedi marwolaeth menyw yn Sir Benfro
13/05/2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod yn Noc Penfro yn Sir Benfro fore Gwener.
Mae dyn 41 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Roedd presenoldeb heddlu mawr yn yr ardal, gan gynnwys swyddogion arfog, yn sgil y digwyddiad ar y Ffordd Filwrol yn y dref.
Mae'r heddlu yn parhau â'u hymholiadau ac ar hyn o bryd, nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'u hymchwiliad.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220513-047.
Llun: Google