
'Braint cael helpu eraill' ar ôl dioddef cyfnod o anobaith dwys
'Braint cael helpu eraill' ar ôl dioddef cyfnod o anobaith dwys
“Dwi’n i edrych i mewn i lygad y person a deud - yndw dwi’n gwybod sut ma' hynna’n teimlo ond dwi di ffeindio ffordd allan a ma’ gen i’r gred lwyr y medri di hefyd.”
Dyma neges yr ymarferydd iechyd meddwl plant a phobl ifanc, Aled Griffiths sydd wedi dioddef cyfnodau o anhwylder iechyd meddwl.
Mae Aled o Benygroes yng Ngwynedd yn gweithio i’r sector iechyd meddwl yng ngogledd Cymru erbyn hyn, ac mae o ei hun wedi derbyn triniaeth iechyd meddwl yn y gorffennol.
Dechreuodd ei iechyd meddwl ddirywio pan oedd yn ddyn ifanc. Ar y pryd, roedd yn ei gweld yn anodd derbyn ei rywioldeb, ac yn ofni y byddai ddim yn cael ei dderbyn fel dyn hoyw.
'Meddylfryd o orffen fy mywyd'
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd: “Pan o’n i’n fy arddegau, a’r brifysgol yn Aberystwyth, nes i ddechrau dioddef yn ofnadwy o iselder, teimlo bo’ na ddim ffordd i fi gal bywyd hapus a byw'r bywyd oni isio a nath hynny arwain at feddylia o anobaith.
“Nes i feddwl am ddifa fy mywyd fy hun ar dipyn o achosion gwahanol.”

Erbyn diwrnod ei ben-blwydd yn 21 daeth Aled i’r canlyniad bod “rhywbeth angen newid” a daeth yn agos iawn i gymryd ei fywyd ei hun.
“Y noson honno, nes i ddringo i dop Constitution Hill yn Aberystwyth efo’r meddylfryd o orffen fy mywyd”, meddai.
“Ond yn y glaw, nes i benderfynu'r noson honno, ella baswn i yn rhoi’r cyfle i fod yn fi’n hun ag yn lwcus iawn ag yn falch iawn rwan bo fi di penderfynu hynny.”
Yn ôl Aled “ffawd” oedd wedi ei achub y noson honno, a dyna beth oedd wedi ei ysgogi i chwilio am help.
Dros 20 mlynedd yn ddiweddarach mae Aled yn dweud ei bod yn “fraint” cael helpu eraill sy’n mynd trwy gyfnodau anodd yn eu bywydau.

"Do’dd y syniad na o faint o anodd ma’ bywyd yn medru bod yn rhywbeth oedd yn aros hefo fi ag oni isio rhoi yn ôl, gan gofio am y gefnogaeth ges i," ychwanegodd.
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac er bod y gefnogaeth ac agweddau tuag at iechyd meddwl wedi gwella, mae peth ffordd i fynd yn ôl Aled.
“Mae ‘na lot mwy o ymwybyddiaeth dyddiau yma. Ond dydw i ddim yn meddwl bod ni wedi cyrraedd lle ‘da ni angen.
Yn ôl Aled mae Covid-19 wedi cael effaith “mawr” ar wasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Dwi’n meddwl bod gwasanaetha o dan stress ar y funud. Ma’ na nifer o bobl ifanc ar waiting list dwys a ma’ hynny yn ofnadwy o bechod.
“Mae hi’n bechod pan mae person ifanc wedi cyrraedd ni. ‘Da ni’n mynd i roi bob cefnogaeth, ond mi fasa fo’n lot gwell ‘sa ni di medru gweld a delio efo pobl yn gynt.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl ac rydym wedi ymrwymo £50m ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant yn 2022/23. Rydym yn parhau i ehangu gwasanaethau i ddarparu mynediad hawdd at gymorth ar-lein a dros y ffôn, heb fod angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol.
“Rydym hefyd yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn cymorth i blant a phobl ifanc fel rhan o ddull system gyfan. Mae hyn yn cynnwys cymorth ychwanegol mewn ysgolion a gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl arbenigol.”
'Help a cefnogaeth'
Mae Aled yn annog unrhyw un sy’n teimlo’n isel i ofyn am help.
“Yn aml iawn pan da ni mewn crisis, ma’ hi’n anodd iawn agor i fyny ag i neud synnwyr o be ‘da ni’n teimlo.
“Dwi wedi clywed miloedd o straeon gwahanol a does 'na’m un yr un fath. Ma' pawb wedi cerdded llwybr gwahanol ag mi fyswn i’n deud, dim ots be ma’ nhw di mynd drwyddo fo, dim ots faint o ddrwg ma’ pethau rŵan, ma’ gen i gred hefo help ac hefo cefnogaeth, mi fedrwn ni ddod drwy hyn ac mi fedrwn ni fynd i le gwell.”