Newyddion S4C

Pelen dân llachar wedi gwibio dros rannau o'r de

ITV Cymru 13/05/2022

Pelen dân llachar wedi gwibio dros rannau o'r de

Mae pelen dân llachar wedi ffilmio ar gamera gan bobl yng Nghymru ar ôl iddi saethu ar draws yr awyr.

Yn ôl arbenigwyr o gynghrair yr ‘UK Network Fireball Alliance’ (UKFA), y gred yw mai meteor neu seren wib oedd y golau a gafodd ei gweld ychydig cyn hanner nos ddydd Mercher. 

Mae rhai pobl hefyd yn dweud eu bod wedi clywed taran sonig yn gysylltiedig â’r meteor. 

Gyda'i chamera cloch drws, llwyddodd Bridget Box i gasglu deunydd fideo o'r belen dân wrth iddi wibio heibio’r Barri ym Mro Morgannwg. 

Mae UKFA yn gofyn i bobl gysylltu gyda nhw i nodi'r hyn ddigwyddodd os oeddynt yn lygaid-dystion neu gyda deunydd fideo o'r digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.