Ethol Brian Davies yn arweinydd newydd ar Gyngor Ceredigion

Cyngor Sir Ceredigion
Mae'r Cynghorydd Brian Davies o Blaid Cymru wedi ei ethol yn arweinydd newydd ar Gyngor Ceredigion.
Fe wnaeth ei blaid sicrhau mwyafrif ar y cyngor yn yr etholiadau lleol, gyda 20 o gynghorwyr ar yr awdurdod lleol bellach.
Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor fore dydd Gwener cafodd Mr Davies ei ethol yn unfrydol.
Roedd ei ragflaenydd, Ellen ap Gwynn yn arwain Grŵp Plaid Cymru ar y cyngor ers 2007, cyn iddi gamu i lawr ar ôl yr etholiadau lleol.
Darllenwch ragor yma.