Newyddion S4C

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd ar ôl tair blynedd

14/05/2022

Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd ar ôl tair blynedd

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd ddydd Sadwrn ar ôl cael ei gohirio am ddwy flynedd yn sgil Covid-19.

Mae'r ŵyl yn cael ei threfnu gan bwyllgor gwirfoddol sy'n cyfarfod drwy'r flwyddyn er mwyn cynnal yr ŵyl ar strydoedd Caernarfon ym mis Mai. 

Fe gafodd y pwyllgor ei ffurfio yn 2015, gan ethol Nici Beech fel cadeirydd, Eleri Lovegreen yn ysrifennydd a Trystan Iorwerth ac Yasmin Khan fel trysoryddion. 

O nerth i nerth

Ar ôl ffurfio'r pwyllgor, cynhaliwyd gwyliau llwyddianus o 2016 i 2019, gyda'r dre yn denu dros 30,000 o ymwelwyr i fod yn rhan o'r digwyddiad. 

Er bod yn rhaid gohirio'r ŵyl yn 2020 a 2021 yn sgil y pandemig, bydd hi'n dychwelyd ddydd Sadwrn i strydoedd Caernarfon "gydag arlwy at ddant pawb wrth ddathlu bwyd a chynnyrch lleol."

Bydd dros 130 o stondinau amrywiol yn bresennol, yn ogystal â 24 o berfformwyr, fydd yn ymddangos ar bedwar llwyfan gwahanol. 

Dywedodd Nici Beech, cadeirydd y pwyllgor, bod y "tîm o wirfoddolwyr wedi bod yn gweithio yn ddyfal, mae popeth yn ei le a dan ni’n barod i groesawu pawb yn ôl i Gaernarfon.

"Dan ni’n hynod falch i fedru cynnal y 5ed ŵyl eleni ac yn edrych mlaen at y fwyaf eto gyda dros 140 o stondinau, 4 llwyfan o adloniant, gweithgareddau i blant a diwrnod o dywydd braf yn y dref orau’n y byd!" meddai. 

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dechrau am 10.00 fore Sadwrn ac yn gorffen am 17.00. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.