DUP yn dweud na fydd y blaid yn ethol Llefarydd newydd yn Stormont

Ni fydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) yn cytuno i ethol Llefarydd newydd yn Stormont ddydd Gwener, meddai ei harweinydd Syr Jeffrey Donaldson.
Dywed y DUP fod y penderfyniad wedi ei wneud mewn protest yn erbyn trefniadau masnachu ar ôl Brexit.
Mae Unoliaethwyr yn gwrthwynebu’r cytundeb ôl-Brexit oherwydd y rhwystrau economaidd y mae’n creu rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Syr Jeffrey: “Heddiw ni fydd y DUP yn cefnogi ethol siaradwr yn y Cynulliad."
Roedd disgwyl i'r cynulliad gyfarfod ddydd Gwener am y tro cyntaf ers etholiad mis Mai.
Darllenwch y stori'n llawn yma.