
Croesawu tafarn boblogaidd y Vulcan i’w chartref newydd

Mae Gwesty’r Vulcan, sef un o westai mwyaf poblogaidd Caerdydd o’r 19eg ganrif, yn cael ei ailadeiladu yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan.
Roedd y Vulcan yn gwasanaethu cymuned Wyddelig yr ardal oedd yn cael ei galw’n Drenewydd.
Cafodd Y Drenewydd ei dymchwel yn 1970.
Y Vulcan oedd yr adeilad olaf i oroesi yn yr ardal.
Mae ardal Y Drenewydd wedi cael ei disgrifio fel lle lliwgar i fyw, gydag ymdeimlad gwych o gymuned.
Roedd yr ardal hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘Iwerddon Fach’ oherwydd ei phoblogaeth Wyddelig fawr.
“Pan wnaethon nhw adeiladu’r Drenewydd, Adam Street oedd y stryd gyntaf i gael ei hadeiladu, a dyna lle’r oedd y Vulcan," dywedodd Mike Crocker, sy’n ysgrifennu llyfr am yr ardal.
"Roedd pobl eisiau byw yn Y Drenewydd oherwydd fe allech chi gyrraedd y dociau mewn 10 munud.
"Roedd yn ardal dosbarth gweithiol i raddau helaeth, wedi'i chynllunio i lafurwyr fyw ynddi.”

'Byw am byth'
Fe welodd y Vulcan newidiadau mawr wrth i Gaerdydd dyfu i fod yn bwerdy diwydiannol ac yna’n brifddinas y genedl.
Mae'r dafarn bellach yn cael ei hadfer a bydd ganddi gartref newydd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
Am bedair blynedd, rhwng 2008 a 2012, bu ymgyrch i geisio achub y Vulcan rhag cael ei ddymchwel.
Wrth i’r archebion olaf gyrraedd, fe gyhoeddodd y grŵp ymgyrchu eu bod yn fodlon gyda’r syniad o symud y Vulcan i Sain Ffagan i gael ei ddiogelu.
Mae'r dafarn wedi'i disgrifio gan yr ymgyrchwyr fel lle oedd ag “egni unigryw a charisma” ac roeddent yn falch bod yr hanes am gael ei gadw’n fyw.
Yn 2011, fe wnaeth canwr y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, enwebu’r Vulcan fel "y dafarn berffaith".
Dywedodd wrth y Guardian: "Mae'n enghraifft berffaith o dafarn Gymreig hen ffasiwn sy’n hyfryd o syml. Mae'n rhaid cadw llefydd fel hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, maen nhw'n adlewyrchiad o'r oes maen nhw wedi goroesi.”

Mae'r amgueddfa'n bwriadu arddangos y Vulcan fel yr oedd yn 1915.
Roedd y flwyddyn hon yn un bwysig i'r dafarn am iddo gael ei adnewyddu gyda theils unigryw, gwyrdd ar y blaen ynghyd â derbyn trawsnewidiad ar y tu fewn.
Mae’r gwaith adfer yn dal i fynd yn ei flaen ac mae’r dafarn yn cael ei hailadeiladu’n ofalus gan ddefnyddio’r cerrig, y brics a’r gwaith coed gwreiddiol, i gyd wedi’u gosod yn union yn eu safleoedd gwreiddiol.