Bwriad i'r pedwar rhanbarth barhau i 'chwarae rôl bwysig' yn y byd rygbi
Mae bwriad i weld y pedwar rhanbarth rygbi yng Nghymru yn parhau i "chwarae rôl bwysig" yn y byd rygbi.
Fe wnaeth y Bwrdd Rygbi Proffesiynol gyfarfod ddydd Mercher i barhau â'u trafodaethau i ddatblygu ei strategaeth ar gyfer rygbi cynaliadwy a llwyddiannus yng Nghymru.
Mae'r bwrdd wedi ei ymrwymo i weithio er mwyn sicrhau bod y pedwar rhanbarth (Gleision Caerdydd, Dreigiau Casnewydd Gwent, Y Gweilch a'r Scarlets) yn parhau i chwarae rôl bwysig yn y gêm broffesiynol.
Bydd y bwrdd yn cyfarfod eto ymhen ychydig wythnosau i sicrhau bod y strategaeth yn "amddiffyn a chryfhau'r gêm" yng Nghymru.
Llun: Asiantaeth Huw Evans