
Cynghorau lleol: ‘Ddim yn iach i ddemocratiaeth’ os oes gan blaid fwyafrif mawr
Cynghorau lleol: ‘Ddim yn iach i ddemocratiaeth’ os oes gan blaid fwyafrif mawr
Nid yw cael mwyafrif mawr ar gynghorau yn iach i ddemocratiaeth, yn ôl sylwebydd gwleidyddol.
Daw sylwadau Dr Dafydd Trystan Davies, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd ar Blaid Cymru, wythnos wedi i etholiadau lleol gael eu cynnal ar draws Cymru.
Dywedodd wrth Newyddion S4C nad yw nifer seddi’r pleidiau ar rai cynghorau yn adlewyrchu’r pleidleisiau maen nhw’n eu derbyn.
O’r etholiadau lleol nesaf, fe fydd modd i gynghorau ddewis cadw system bresennol First Past the Post neu symud tuag at system STV.
Mae STV yn system sy’n golygu bod wardiau mwy yn cael eu ffurfio i ethol tîm o gynghorwyr, yn hytrach nag ethol un cynghorydd i bob ward fel sydd yn wir dan system First Past the Post.
Dywedodd Dr Trystan: “Yr hyn sy’n drawiadol yw mewn nifer o fannau ma’ ‘na shifft mawr wedi bod ag ma’ ‘na nifer o fannau lle ma’ gan un blaid dominyddiaeth, a hynny heb ennill mwyafrif y pleidleisiau.
“Yr enghraifft amlycaf efallai yw’r brifddinas yma yng Nghaerdydd, ma’ bron i dri chwarter y seddi yn nwylo’r blaid Lafur a llai na hanner y bobl wedi pleidleisio drosti.
“A bydden i’n gwued yr un fath, er gwaetha’r ffaith mod i’n ‘nabod nifer o’r cyfeillion sydd wedi eu hethol yng Ngwynedd, ac maen nhw’n gynghorwyr gweithgar iawn.
“Ma’r un peth yn mynd i’r Blaid yng Ngwynedd, felly hefyd i Lafur yng Nghaerdydd.”

‘Turkeys a Nadolig’
Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi bod yn galw ar gynghorau sir i symud tuag at system STV ers i’r gallu i wneud hynny gael ei roi i gynghorau drwy ddeddfwriaeth a gafodd ei basio yn 2021.
Yn ôl un cyn-gynghorydd Llafur ar Gyngor Sir Gâr, mae’n annhebygol y bydd rhai cynghorau yn gefnogol i symud tuag at y system newydd.
Dywedodd Calum Higgins wrth Newyddion S4C: “Y problem gyda’r system sydd gyda ni yw mae lawr i’r cynghorwyr lleol cytuno i wneud ‘na a ma’ nhw ‘di cael eu hethol ar First Past the Post a ma’r dywediad turkeys a Nadolig yn dod i meddwl, bod neb yn mynd i newid y system ma’ nhw ‘di ennill o dano.
“So ma’ ishe edrych ar systemau mwy teg ond dwi ddim yn gweld bod newid yn mynd i ddigwydd heblaw bod arweiniad yn dod wrth Llywodraeth Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Un o egwyddorion allweddol y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau yw i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol ac yn y pen draw penderfyniad cyngor unigol yw dewis ei system, ar ôl ymgynghori'n lleol.
"Byddwn yn gweithio gydag unrhyw gynghorau sydd â diddordeb i sicrhau bod cynghorwyr yn cael eu cefnogi i wneud dewis gwybodus."

Yr wythnos hon, fe amlinellodd Llafur a Phlaid Cymru gamau i gynyddu’r nifer o aelodau yn Y Senedd o 60 i 96 gan ddefnyddio system D’Hondt i’w hethol.
Ym marn Mr Higgins, mae’n gam yn y cyfeiriad cywir, ond fe allai system fwy cynrychiadol gael ei fabwysiadu.
“Mae’n cam ymlaen dwi’n credu i cael rhywbeth mwy teg sy’n cynrychioli beth mae pobol yn meddwl.
“Bydde STV yn well yn barn i a ma' D’Hondt yn rhoi lot o pŵer i pleidiau dewis ymgeiswyr nhw yn mewnol.
“Ma’ STV yn gadael pobl i bleidleisio ar gyfer person, sy’n bwysig i lot o pobol ar y drysau.”
Mae’r polisi o gynyddu’r aelodau sydd yn cael eu hethol i’r Senedd wedi ei wrthwynebu’n llym gan y Ceidwadwyr Cymreig sydd yn dadlau na ddylid gwario arian ar fwy o aelodau.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi dweud fod y llywodraeth a Phlaid Cymru wedi dewis system sydd ddim yn adlewyrchu pleidleisiau etholwyr.