Y Senedd i nodi cyfraniad y newyddiadurwr Gareth Jones
Fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Senedd ddydd Iau i nodi cyfraniad y newyddiadurwr Gareth Jones (1905-35).
Roedd ei adroddiadau o Wcráin yn ystod 30au'r ganrif ddiwethaf, pan ddatgelodd newyn yn y wlad - yr Holodomor - oedd yn gyfrifol am ladd miliynau, a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen, yn allweddol bwysig ar y pryd.
Yn enedigol o’r Barri, roedd yn ieithydd medrus, ac ar ôl graddio o Aberystwyth a Chaergrawnt, bu’n gweithio fel cynghorydd materion tramor i David Lloyd George, fel ymgynghorydd i Ivy Lee Associates yn Efrog Newydd, ac fel newyddiadurwr.
Fe weithiodd i'r Times, y Western Mail, Daily Express, y New York Evening Post a'r Guardian.
Bydd y digwyddiad yn y Senedd, sy'n cael ei noddi gan Mick Antoniw AS, yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Lubomyr Luciuk a’r newyddiadurwr Martin Shipton, Fe fydd yr actor Julian Lewis Jones yn darllen o ddyddiaduron a llythyrau Gareth Jones.
Archif y Llyfrgell Genedlaethol
Yn ogystal â nodi cyfraniad Gareth Jones, fe fydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddathlu cwblhau’r gwaith o ddigido rhan helaeth o'i archif, sydd yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth ariannol a gafwyd i ddigido archif Gareth fel rhan o strategaeth digido’r Llyfrgell.
"Mae’n archif hynod o bwysig ac erbyn hyn yn medru cael ei rhannu gyda haneswyr ac ymchwilwyr ar draws y byd. Mae’n dyled ni’n fawr hefyd i deulu Gareth am adneuo’r papurau gyda ni yn y Llyfrgell.”
Dywedodd Lubomyr Luciuk, Athro Gwleidyddiaeth Daearyddiaeth yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada: “Talodd Gareth Jones gyda’i fywyd am ddweud y gwir, y fo oedd un o’r newyddiadwyr cyntaf i gyhoeddi’r stori am hil-laddiad Newyn Mawr 1932–1933 Wcráin Sofietaidd, yr Holodomor.
"Mae’n hanfodol cofio a chysegru ymrwymiad y Cymro yma i adrodd am erchyllterau’r hyn oedd yn digwydd, hyd yn oed wrth i’r Sofietiaid, eu cyd-deithwyr, a llywodraethau gorllewinol guddio’r gwirionedd, yn enwedig mewn cyfnod lle mae Wcráin unwaith eto yn dioddef rhyfel, ymosodiad ac agenda hil-laddiad Vladimir Putin a’i gynghreirwyr yn y KGB.”
'Dyled Wcráin yn fawr'
Cafodd y gwaith o ddidigeiddio archif Gareth Jones ei noddi gan Gynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin.
Dywedodd Osakana Lodzuik Krywulych, Swyddog Cyffredinol y Gynghrair: "Mae’n anrhydedd i Gynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin fod yn un o noddwyr y gwaith i ddigido dyddidaduron Gareth Jones.
"Mae’r UNWLA yn parhau i fod yn gadarn yn ei hymrwymiad i fod yn gyfrwng creu ymwybyddiaeth ac addysgu pobl am yr hil-laddiad yn Wcráin, a adwaenir fel yr Holodomor. Mae dyled cenedl Wcráin i Gareth Jones yn fawr - gŵr arbennig nad oedd yn ofni dweud y gwir am erchyllterau’r Holodomor.
"Mae’n haeddu cael ei anrhydeddu a’i gofio am ddogfennu’r gwirionedd a hynny pan oedd yn cael ei wadu gan nifer yn y Gorllewin. Mae ei adroddiadau yn arbennig o drawiadol heddiw gan fod Wcráin unwaith eto yn dioddef hil-laddiad gan yr un tramgwyddwr tra bod llygad y byd yn gwylio wrth iddo ddigwydd."
Llun: Flickr