Newyddion S4C

Angen i'r Ffindir ymuno gyda NATO 'heb unrhyw oedi' medd arweinwyr y wlad

12/05/2022
Ffindir

Mae arlywydd a phrif weinidog y Ffindir wedi cyhoeddi eu bod o blaid eu gwlad yn ymuno gyda NATO.

Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, roedd cryn ddyfalu y byddai'r wlad a Sweden yn agosáu at benderfyniad i ymuno gyda'r gynghrair filwrol.

Mewn datganiad ar y cyd fore dydd Iau, dywedodd yr Arlywydd Sauli Niistro a'r Prif Weinidog Sanna Marin y byddai aelodaeth y Ffindir o NATO "yn cryfhau diogelwch y Ffindir":

"Yn ystod y gwanwyn hwn, mae trafodaeth bwysig am aelodaeth posib y Ffindir gyda NATO wedi cael ei chynnal. Roedd angen amser ar y Senedd a'r gymdeithas i sefydlu barn ar y mater.

"Roedd angen amser ar gyfer cyswllt agos rhyngwladol gyda NATO a'r gwledydd sydd yn aelodau, a hefyd gyda Sweden. Roeddem am roi'r gofod angenrheidiol i'r drafodaeth yr oedd ei angen."

Ychwanegodd y ddau: "Gan fod y foment o wneud penderfyniad yn agos, rydym yn lleisio ein barn gyfartal a hefyd er gwybodaeth i'r grwpiau a'r pleidiau seneddol.

"Byddai aelodaeth o NATO yn cryfhau diogelwch y Ffindir...Rhaid i'r Ffindir wneud cais am aelodaeth i NATO heb unrhyw oedi."

Mae'r Ffindir yn rhannu ffin o 830 milltir gyda Rwsia, ac roedd rhyfel fer rhwng y ddwy wlad yn 1939-40 yn adlais o ymosodiad Rwsia ar Wcráin eleni.

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd fe ymosododd Rwsia ar y Ffindir gan ddechrau 'Rhyfel y Gaeaf', gyda lluoedd Rwsia heb baratoi ar gyfer y gaeaf caled a daearyddiaeth y wlad.

Wedi tri mis o ymladd, gorfodwyd y Ffindir i arwyddo cytundeb gyda Moscow, gan golli 11% o'i thiriogaeth o ganlyniad. Fyth ers hynny mae'r wlad wedi mabwysiadu polisi o fod yn niwtral gan osgoi ymuno gyda NATO hyd yma.

Prif Lun: Lluoedd arfog y Ffindir

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.