Newyddion S4C

Watford yn ystyried cyn-chwaraewr Cymru Rob Edwards fel rheolwr newydd

Mail Online 11/05/2022
Rob Edwards

Mae clwb pêl-droed Watford mewn trafodaethau gyda cyn-chwaraewr Cymru Rob Edwards wrth i'r clwb edrych am reolwr newydd.

Mae'r newyddion wedi ennyn ymateb chwyrn gan glwb Forest Green sydd yn dweud fod cyfnod Edwards fel rheolwr yno wedi dod i ben o ganlyniad i'r trafodaethau.

Llwyddodd Forest Green i sicrhau dyrchafiad o Adran Dau y tymor hwn dan arweinyddiaeth Edwards.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, dywedodd Forest Green fod y clwb yn siomedig fod eu "cefnogaeth, teyrngarwch a gonestrwydd wedi ei ad-dalu yn y modd yma, gyda thrafodaethau'n cael eu cynnal tu ôl i'n cefnau."

Ychwanegodd y cwlb fod y fath ymddygiad "yn rhoi enw drwg i bêl-droed."

Darllenwch ragor yma.

Prif lun: Forest Green/Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.