Teyrnged teulu i ddyn 'clên a chariadus' 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Dafydd Hughes yn 18 oed ac yn dod o Abertyswg.
Digwyddodd y gwrthdrawiad dau gerbyd ger pentref y Drenewydd Gelli-farch.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei deulu eu bod wedi eu dryllio o ganlyniad i'w farwolaeth.
"Newydd droi'n 18 oed oedd Dafydd ac roedd ei holl fywyd o'i flaen.
"Roedd yn fachgen clên a chariadus oedd yn addoli ei deulu. Roedd yn gyfaill da i lawer o bobl ac roedd rhywbeth arbennig amdano.
"Roedd yn gwneud y gorau o'i fywyd ac roedd bob amser yn gwenu. Roedd wrth ei fodd yn pysgota a mynd i sioeau cŵn. Roedd yn fachgen go iawn."
Ychwanegodd y teulu y byddai colled anferth ar ei ôl.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i ofyn am wybodaeth am y gwrthdrawiad rhwng cerbyd Peugeot 5008 a Ford Focus, am tua 13:30.
Mae dyn a menyw yn eu 50au wedi gadael yr ysbyty yn dilyn triniaeth, ac mae dyn 29 oed yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu dros y we neu ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200152615.