Newyddiadurwr wedi ei lladd yn ystod cyrch gan luoedd Israel

Mae newyddiadurwr wedi’i saethu’n farw ac un arall wedi’i anafu wrth sylwebu am gyrch milwyr Israel.
Roedd y gohebydd Palesteinaidd Shireen Abu Akleh, 51 oed, oedd yn gweithio i sianel newyddion Al Jazeera, wedi'i saethu yn nhref Jenin yn gynnar ddydd Mercher a bu farw yn fuan wedyn.
Mewn datganiad, dywedodd Al Jazeera fod Abu Akleh wedi’i “lladd mewn gwaed oer” a galwodd ar y gymuned ryngwladol i ddal lluoedd Israel yn gyfrifol.
Mae gweinidog tramor Israel, Yair Lapid, wedi cynnig ymchwiliad ar y cyd â'r Palestiniaid.
Cafodd newyddiadurwr arall o Balestina, Ali al-Samoudi ei anafu ond mae mewn cyflwr sefydlog.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Al Jazeera