Newyddion S4C

Deborah James yn 'gwneud gwahaniaeth' i bobl sy'n byw â chanser y coluddyn

11/05/2022

Deborah James yn 'gwneud gwahaniaeth' i bobl sy'n byw â chanser y coluddyn

Mae ymgyrch y cyflwynydd Deborah James i godi arian ar gyfer ymchwil i driniaeth canser yn "gwneud gwahaniaeth" i fywydau pobl sy'n byw â'r salwch, yn ôl dynes o'r gogledd a gollodd ei gŵr i ganser y coluddyn.

Bu farw gŵr Rebecca Williams, Irfon, o ganser y coluddyn yn 2017 yn 46 oed. 

Cyn iddo farw, fe wnaeth Irfon lansio ymgyrch elusennol ei hun, Tîm Irfon, gan godi dros £150,000 ar gyfer Uned Alaw Ysbyty Gwynedd. 

Cafodd Deborah James, sy'n cyflwyno'r podlediad You, Me and the Big C ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2016 ac mae hi wedi bod yn llais cryf yn yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r salwch ers hynny. 

Mae'r cyn-ddirprwy brifathrawes bellach wedi lansio ymgyrch i godi arian ar gyfer elusen Cancer Research UK wedi iddi ddatgelu'r newyddion trist ei bod yn derbyn triniaeth ddiwedd oes. 

Mae'r ymgyrch wedi derbyn ymateb anhygoel ers lansio nos Lun, gan godi dros £2m. 

Dywedodd Rebecca wrth Newyddion S4C fod ymgyrchoedd fel rhai Irfon a Deborah James yn cael effaith anferth ar godi ymwybyddiaeth am ganser y coluddyn.

"Beth mae Deborah wedi isho yw i bobl siarad am bowel cancer, a dyna be mae pobl yn neud rŵan," meddai. 

"Fel Irfon, oedd hi rili eisiau newid pethau i bobl sydd mynd i gael y diagnosis yn y dyfodol." 

Ychwanegodd Rebecca ei fod yn bwysig chwalu'r stigma o amgylch canser y coluddyn er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn triniaeth yn ddigon buan. 

"Y mwy da ni'n siarad, y mwy sylw ma' bowel cancer yn cael, mae'r driniaeth yn mynd i wella.

"Mae pobl yn mynd i teimlo yn fwy hyderus i fynd at y meddyg teulu os ydy nhw'n cael symptomau.

"Da ni'n gwybod, os mae pobl yn cael y diagnosis yn gynnar, maen nhw'n gallu triniaeth yn gynnar sydd yn lot gwell ar gyfer cyfraddau goroesi."

Llun: Deborah James / Just Giving

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.