Elon Musk yn dweud y byddai'n 'dad wahardd' Donald Trump

Mae Elon Musk sydd yn y broses o brynu Twitter, yn dweud y byddai'n dad wneud y penderfyniad i wahardd Donald Trump o'r cyfrwng pe bai e'n rheoli'r wefan gymdeithasol.
Yn ôl y biliwnydd, roedd y penderfyniad i wahardd cyn Arlywydd America yn un "ffôl".
" Dylai gwaharddiad parhaol fod yn hynod o anghyffredin", meddai.
"Rydw i'n credu taw camgymeriad oedd hyn, gan nad yw Trump wedi colli ei lais".
Ond pwysleisiodd nad yw'n berchen ar Twitter eto, ac na fedrai gadarnhau felly y caiff Donald Trump leisio ei farn unwaith yn rhagor ar y cyfrwng cymdeithasol.
Rhagor gan Sky News yma
Llun: Steve Jurvetson