Newyddion S4C

Ymgais i gael 'chwaraeon rhyngwladol' ar y Cae Ras

Newyddion S4C 10/05/2022

Ymgais i gael 'chwaraeon rhyngwladol' ar y Cae Ras

Mae cyn chwaraewyr pêl-droed Cymru wedi lansio ymgyrch i ddatblygu Stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam, Y Cae Ras.

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei arwain gan Malcom Allen a Mickey Thomas, yn gobeithio datblygu eisteddle i ddal 5,500 o gefnogwyr, maes parcio ar gyfer 400 o geir, creu canolfan gynadledda, gwesty pedair seren, a chael gwell cyfleusterau ar gyfer y cyfryngau.

Byddai datblygiad o’r fath yn golygu y gallai "chwaraeon rhyngwladol ddychwelyd i ogledd Cymru," meddai’r sêr pêl-droed.

Image
S4C
Mae Malcom Allen, cyn ymosodwr Cymru, yn dweud bod angen stadiwm sydd gyda chyfleusterau da yn y gogledd 

“ ’Da ni angen y cop yn nôl ac wedyn fydd genna ni stadiwm allan ni alw yn stadiwm ni yma yn y gogledd,” ychwanegodd Malcom Allen.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Spencer Harris, un o gyn cyfarwyddwyr y clwb ei bod hi’n “bwysig bod pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi chwaraeon rhyngwladol i ddod nôl i ogledd Cymru.”

Mae Malcom Allen a Mickey Thomas yn galw am gefnogaeth i sicrhau cyllid i ailddatblygu'r Cae Ras. Mae'r ymgyrch yn rhan o gais Cyngor Wrecsam ar gyfer cronfa Codi'r Gwastad. Cronfa yw hon gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith gyda'r nod o wella bywydau pobl.

Bydd Cyngor Wrecsam yn gwneud y cais am gyllid i ailddatblygu'r stadiwm dan yr enw 'Porth Wrecsam'. Bydd y penderfyniad ariannu yn digwydd yr haf hwn.  

Un sydd wedi dangos cefnogaeth i’r ymgyrch ydy Geraint Lövgreen, cefnogwr Wrecsam a Chymru.

Dywedodd y byddai datblygu’r stadiwm yn golygu gwasgaru'r gemau rhwng de Cymru a gogledd Cymru, gan ei wneud yn haws i gefnogwyr y gogledd.

“Mae’n anodd iawn i deulu ifanc deithio lawr i Gaerdydd a thalu’r costau,” meddai.

Ddechrau eleni cyhoeddodd y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, sydd hefyd yn berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, eu bod yn y broses o brynu tir y Cae Ras.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.