Araith y Frenhines: Costau byw a hybu'r economi ymysg y prif bynciau

Bydd Araith y Frenhines ddydd Mawrth yn datgelu cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Fe fydd yr araith yn cyhoeddi 38 o filiau newydd, gan gynnwys deddfau gyda’r nod o leddfu costau byw a hybu twf economaidd.
Bydd gweinidogion hefyd yn nodi cosbau llymach i grwpiau protest sy'n defnyddio tactegau fel cloi eu hunain i adeiladau neu i bobl eraill.
Mewn datganiad ddydd Llun, cyhoeddwyd y bydd y Tywysog Charles yn darllen araith y Frenhines ar ei rhan oherwydd ei bod hi'n cael anawsterau cerdded.
Darllenwch y stori'n llawn yma.